Nodau'r ymchwil

Nod y prosiect hwn yw deall profiadau cyhoedd y DU o'r pandemig coronafirws ac agweddau tuag ato. Gobeithiwn allu:

  • Deall newidiadau mewn ymddygiadau atal trosglwyddo (e.e. gwell hylendid, pellhau cymdeithasol) COVID-19 dros amser
  • Deall sut rydyn ni wedi bod yn ymdopi â chflyron iechyd hir-dymor yn ystod y pandemig (e.e. hunanreolaeth cyflyrau fel diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd)
  • Deall newidiadau i’n ffordd o fyw dros amser (e.e. ysmygu, yfed alcohol, bwyta’n iach, gweithgaredd corfforol, rhyngweithio cymdeithasol)
  • Nodi pa ffactorau seicolegol a chymdeithasol sy’n gyrru yr ymddygiadau hyn
  • Creu model ar gyfer ymyriadau sy'n ceisio lleihau niwed o'r coronafirws ar draws y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar gynorthwyo pobl i amddiffyn eu hunain rhag haint, lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint i eraill, a gofalu am eu hiechyd a'u lles cyffredinol.
  • Nodi rhagfynegwyr cyn-bandemig o ymddygiadau iechyd gan ddefnyddio cysylltiad data â data Doeth am Iechyd Cymru ar ffordd o fyw, lles a chymdogaethau.

Cefndir yr ymchwil

Mae'r pandemic COVID-19 wedi mynd a ni i diriogaeth newydd oherwydd ei newydd-deb, heintusrwydd, cyfraddau marwolaeth, ynghyd â phoblogaethau trwchus mewn ardaloedd trefol, a chynnydd mewn teithio pellter byr a hir yn yr oes bresennol. Mae'n bwysig deall barn cyhoeddus am ymatebion y llywodraeth i bandemigau fel y gellir ddefnyddio’n dealltwriaeth wrth gynllunio ymatebion i fygythiadau firaol heddiw ac yn y dyfodol.

Mae ymddygiad y cyhoedd yn cael dylanwad mawr ar ledaeniad pandemigau a llwyddiant strategaethau cyfyngu ac oedi. Er fod dysg gwerthfawr gan bandemigau blaenorol, mae'n hanfodol ein bod yn deall credoau ac ymatebion ymddygiadol yng nghyd-destun yr achos cyfredol hwn ym mhoblogaeth Cymru a’r DU. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y ffordd orau i leihau niwed ar draws y boblogaeth gyfan a datblygu negeseuon iechyd cyhoeddus effeithiol ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.

Moeseg

Mae'r prosiect hwn wedi'i gymeradwyo gan Bwyllgor Moesegol Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyfeirnod Sta-2760 a Sta-2707).

Cyfranogiad y cyhoedd

Mae gennym grŵp rhanddeiliaid amlddisgyblaethol a fydd yn cymryd rhan trwy gydol y prosiect. Mae gennym ddwy cynrychiolydd cyhoeddus fel rhan o'n tîm.

Rhannu ein canfyddiadau

Byddwn yn cynhyrchu adroddiadau ac yn cyhoeddi canfyddiadau'r astudiaeth mewn cyfnodolion academaidd. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid cyhoeddus i gynhyrchu crynodebau o'n canfyddiadau ar gyfer y cyhoedd, a fydd yn cael eu dosbarthu trwy ei’n cyfryngau cymdeithasol.

Sut rydym yn amddiffyn preifatrwydd cyfranogwyr

Bydd pawb sy'n gweithio ar yr astudiaeth yn parchu preifatrwydd cyfranogwyr. Rydym wedi cymryd camau gofalus iawn i sicrhau na ellir adnabod cyfranogwyr o ymatebion arolwg neu cyfweliadau. Bydd yr holl ddata yn ddienw trwy gael gwared ar yr holl wybodaeth a allai fod yn adnabyddadwy (e.e. enwau, lleoedd ac ati).

Bydd yr holl ddata personol yn cael ei brosesu yn unol ag Erthygl 6 (1) ac Erthygl 9 (2) (a) o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018. 

Os ydych wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth ac yr hoffech dynnu'n ôl o'r astudiaeth ar ôl darparu manylion cyswllt, cysylltwch â'r Swyddfa Cymorth Ymchwil ac Arloesi Ysgol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd (cshsresoffice@cardiffmet.ac.uk).

Cyllid

Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant o £ 102,279 i ni gan Sêr Cymru i'n helpu i gyflymu ein dadansoddiad data, cael canfyddiadau i chi yn gyflymach a gweithio gyda Doeth am Iechyd Cymru i gysylltu ei’n data. Yn ogystal, rydym wedi derbyn arian cychwynnol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd (£ 1,750). Cyn yr arian hwn, roedd ein tîm yn cynnal yr astudiaeth hon fel rhan o'u rolau academaidd, gyda chefnogaeth eu sefydliad.


© Copyright COPE Study