Croeso i wefan ei’n hastudiaeth
Mae COPE yn un o'r astudiaethau gwyddorau cymdeithasol mwyaf o rhan maint a manylder o'r pandemig COVID-19 yn y DU. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar beth rydyn ni wedi bod yn meddwl, ein teimladau, a'n gweithredoedd yn ystod y pandemig.
Gwnaethom gynnal ein harolwg ar-lein cyntaf rhwng Mawrth 12fed ac Ebrill 12fed 2020, wrth i’r pandemig gyrraedd ei anterth cyntaf yn y DU. Cymerodd 11,113 o bobl ran yn ein harolwg cyntaf.
Cwblhaodd 7,043 o ymatebwyr ein ail arolwg ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.
Mi fyddwn yn gwahodd pobl sydd wedi cymryd rhan yn ein harolygon blaenorol i lenwi holiadur yn ddiweddarach y mis hwn, blwyddyn ymlaen o'n harolwg cyntaf.
Rydym hefyd wedi bod yn cynnal cyfweliadau manwl gyda 28 o bobl o bob rhan o'r DU i ddarganfod sut beth oedd bywyd iddyn nhw yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig.
Mae ein hastudiaeth yn bwysig o rhan llywio ymateb y llywodraeth a gwasanaethau iechyd i bandemig COVID-19, yn ogystal â ffurfio cofnod hanesyddol gwerthfawr o fywyd yn y DU yn ystod y pandemig.
Astudiaeth Profiadau Cyhoeddus COVID-19 (COPE): Diweddariad Mawrth 2022
Mae’n anodd credu ein bod bellach ddwy flynedd ymlaen o ddechrau’r pandemig a lansiad ein harolwg COPE cyntaf.
Rydyn ni nawr yn cychwyn ar ein harolwg dilynol 2 flynedd ac yn edrych ymlaen at ddysgu sut mae ein carfan yn teimlo a beth maen nhw'n ei wneud ar yr adeg hon yn y pandemig. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac sydd wedi rhannu eu profiadau gyda ni yn ystod y pandemig.
Yn y don hon o’r arolwg, rydym yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei wneud nawr (os unrhywbeth) i leihau lledaeniad COVID-19, sut mae pobl yn teimlo am frechiadau yn erbyn COVID-19, sut mae’r pandemig wedi effeithio ar weithgareddau amser hamdden, a phrofiadau defnyddio gwasanaethau’r GIG dros y chwe mis diwethaf.
Darllenwch y diweddariad llawn yma.