Newyddion

Astudiaeth Profiadau Cyhoeddus COVID-19 (COPE): Diweddariad Mawrth 2022

Mae’n anodd credu ein bod bellach ddwy flynedd ymlaen o ddechrau’r pandemig a lansiad ein harolwg COPE cyntaf. 

Rydyn ni nawr yn cychwyn ar ein harolwg dilynol 2 flynedd ac yn edrych ymlaen at ddysgu sut mae ein carfan yn teimlo a beth maen nhw'n ei wneud ar yr adeg hon yn y pandemig. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac sydd wedi rhannu eu profiadau gyda ni yn ystod y pandemig. 

Yn y don hon o’r arolwg, rydym yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei wneud nawr (os unrhywbeth) i leihau lledaeniad COVID-19, sut mae pobl yn teimlo am frechiadau yn erbyn COVID-19, sut mae’r pandemig wedi effeithio ar weithgareddau amser hamdden, a phrofiadau defnyddio gwasanaethau’r GIG dros y chwe mis diwethaf.

Ers ein harolwg diwethaf ym mis Tachwedd 2021, rydym wedi bod yn brysur yn dadansoddi data ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn tynnu sylw llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd at faterion allweddol yr ydych wedi dweud wrthym amdanynt.

Gallwch gael mynediad am ddim i'r adroddiadau llawn ar bynciau allweddol yma:

Mae gennym ni sawl darn arall o ddadansoddi ar y gweill, gan gynnwys deall:

  • Newidiadau ym mhryderon pobl yn ystod y pandemig
  • Profiadau cleifion o ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yn ystod y cyfyngiadau symud
  • Pryderon diogelwch cleifion a adroddwyd yn ystod y pandemig
  • Newidiadau yn y defnydd o amser hamdden ac effaith hyn ar les
  • Newidiadau mewn diet a lles yn dilyn colli blas arogl yn hirdymor o ganlyniad i COVID-19

Byddwn yn eich diweddaru ar ein canfyddiadau cyn gynted ag y byddant ar gael.

Cysylltwch â’n tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am yr astudiaeth: covid19publicsurvey@cardiffmet.ac.uk

Astudiaeth Profiadau Cyhoeddus COVID-19 y DU (COPE): Diweddariad Mawrth 2021

Astudiaeth Profiadau Cyhoeddus COVID-19 yn y DU (COPE): Diweddariad Mawrth 2021

Mae astudiaeth COPE ymhlith yr astudiaethau gwyddorau cymdeithasol COVID-19 mwyaf yn y DU. Rydym yn edrych ar feddyliau, teimladau a gweithredoedd pobl yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar fywydau pobl, a sut mae pobl wedi bod yn ymdopi yn ystod cyfnodau cloi. 

Cymerodd 11,113 o bobl ran yn ein harolwg cyntaf yn ystod mis Mawrth ac Ebrill 2020

Cymerodd 7,048 o'r bobl hyn ran yn ein hail arolwg yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2020

Daeth 8,727 o bobl a gymerodd ran yn COPE atom trwy HealthWise Wales, ac mae 4,683 o’r ymatebwyr hyn wedi cydsynio i gysylltu eu data arolwg COPE yn ddienw â’u data Doeth am Iechyd Cymru.

Ar y 12fed o Fawrth 2021, byddwn yn lansio ein trydydd arolwg, union 12 mis ar ôl ein harolwg cyntaf.

Mae 28 o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn cyfweliadau manwl am eu profiadau yn ystod y flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at siarad â nhw eto'r mis hwn.

Canfyddiadau o'n harolwg Mehefin / Gorffennaf 2020

  • Adroddodd 1 o bob 6 o bobl symptomau iselder a phryder
  • Roedd 6 o bob 10 o bobl yn teimlo bod effaith ynysu cymdeithasol ar eu hiechyd meddyliol yn ei gwneud hi'n anodd iddynt ddilyn canllawiau'r llywodraeth
  • Roedd 9 o bob 10 o bobl yn teimlo bod colli eu teulu, ffrindiau, neu bartner yn dylanwadu ar eu gallu i ddilyn canllawiau'r llywodraeth, ond roedd y risg o niwed i anwyliaid o COVID-19 yn bryder cyffredin ac yn gymhelliant cryf i ddilyn rheolau pellhau cymdeithasol
  • Cafodd cyfnod cloi cyntaf y DU effaith ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, gyda 2 o bob 100 yn ysmygu yn amlach, 20 o bob 100 yn yfed alcohol yn amlach, 20 o bob 100 yn bwyta'n iach yn llai aml, a 30 o bob 100 yn ymarfer corff yn llai aml na chyn y pandemig

Beth nesaf?

Byddwn yn edrych ar ystod eang o faterion, gan gynnwys:

  • Beth sydd wedi digwydd i iechyd a lles pobl dros y flwyddyn ddiwethaf?
  • A yw ein hagweddau tuag at COVID-19 wedi newid dros y 12 mis diwethaf?
  • Beth yw barn pobl am frechiadau yn erbyn COVID-19
  • Beth yw barn pobl am sut a phryd y gallem ddychwelyd i ‘fywyd normal’?

I gael diweddariadau prosiect, ewch i: https://copestudy.yolasite.com/, Twitter @COVID19publics1 neu ein tudalen Facebook @COVID19publicexperiencesUK

 

© Copyright COPE Study