Y Tîm

Dr Rhiannon Phillips, (Prif Ymchwilydd) Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dr Phillips yw prif ymchwilydd yr astudiaeth hon. Mae hi'n seicolegydd iechyd sydd â phrofiad helaeth mewn ymchwil dulliau cymysg a heintiau.

Dr Emma Thomas-Jones (cyd-Brif Ymchwilydd), Prifysgol Caerdydd

Dr Thomas-Jones yw cyd-brif ymchwilydd yr astudiaeth hon. Mae hi'n Uwch Gymrawd Ymchwil ac yn arweinydd treialon yn y Thema Ymchwil Heintiau, Llid ac Imiwnedd yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Britt Hallinberg (arweinydd y pecyn gwaith meintiol), Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae Dr Hallingberg yn arwain y pecyn gwaith meintiol (arolwg) ar gyfer yr astudiaeth hon. Mae hi'n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol sydd â phrofiad o gymhwyso theori seicolegol i iechyd y cyhoedd ac mae ganddi arbenigedd mewn dulliau ymchwil ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyrraeth.

Dr Denitza Williams (arweinydd y pecyn gwaith ansoddol), Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Mae Dr Williams yn arwain y pecyn gwaith ansoddol (cyfweliadau) ar gyfer yr astudiaeth hon ac mae'n Gymrawd Ymchwil mewn Seicoleg Iechyd. Mae gan Dr Williams arbenigedd mewn dulliau ansoddol cyfranogol a chynnal cyfweliadau manwl sensitif.

Dr Kathy Hughes, Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Hughes yn arbenigo mewn diagnosio a rheoli problemau cyffredin a welir ym Meddygfa Gyffredinol y DU, yn enwedig heintiau. Mae hi'n feddyd teuluol ac Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol yng Nghanolfan PRIME Cymru a'r Is-adran Meddygaeth Poblogaeth. Hi yw cyd-arweinydd y thema Heintiau yn PRIME.

Dr Rebecca Cannings-John, Prifysgol Caerdydd

Mae Cannings-John yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei chefndir mewn Ystadegau Meddygol. Mae ganddi arbenigedd helaeth mewn dylunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd ar hap dreialon ac astudiaethau eraill sydd wedi'u cynllunio'n dda.. 

Mr Ashley Akbari, Prifysgol Abertawe

Mae Mr Akbari yn Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe, Health Data Research UK (HDR-UK) Cymru a Gogledd Iwerddon, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADRW), Partneriaeth Data Arsyllfa Cyfiawnder Teulu Nuffield (NFJO) ac eraill. Profiad o weithio ar amrywiaeth o brosiectau cysylltu data ac ymchwil.Bydd Mr Akbari yn ein cefnogi i gynllunio ar gyfer cysylltu data.

Dr James Blaxland, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae Dr Blaxland yn ddarlithydd ac yn arbenigo mewn microbioleg. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau gyda Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn, Porton Down, y DU gan nodi strategaethau dadheintio newydd ar gyfer sborau Bacillus anthracis asiant achosol anthracs.

Professor Diane Crone, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae’r Athro Crone yn arbenigo mewn Ymarfer ac Iechyd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae ei harbenigedd ym maes dylunio, darparu a gwerthuso ymyriadau hybu iechyd mewn gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, ac yn y gymuned.

Dr David Gillespie, Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Gillespie yn gymrawd ymchwil uwch yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd. Mae gan Dr Gillespie gefndir mewn ystadegau meddygol ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio meddyginiaeth yn ddarbodus ym maes afiechydon heintus.

Yr Athro Delyth H James, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae diddordebau ymchwil yr Athro James yn ymwneud â seicoleg ymddygiadau cleifion ac ymarferwyr sy'n sail i sgiliau defnyddio ac ymgynghori meddyginiaethau. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn deall credoau’r claf am feddyginiaethau a sut y gellir mynd i’r afael â’r rhain yn ystod yr ymgynghoriad.

Dr Natalie Joseph-Williams, Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Joseph-Williams yn ddarlithydd ac yn gyd-arweinydd y pecyn gwaith Gofal Iechyd Canolog a Darbodus ar gyfer Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol ac Argyfwng Cymru (Canolfan PRIME Cymru). Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gweithredu gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf mewn lleoliadau clinigol arferol, gwneud penderfyniadau ar y cyd, a grymuso cleifion.

Dr Nicholas Perham, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae Dr Perham yn uwch ddarlithydd ac yn arbenigo mewn seicoleg wybyddol. Bydd yn ein cynghori ar y prosesau gwybyddol sy'n gysylltiedig â chanfyddiad risg.

Yr Athro Wouter Poortinga, Prifysgol Caerdydd

Mae'r Athro Poortinga yn athro seicoleg amgylcheddol. Mae ei ddiddordebau ymchwil mewn amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â rhyngweithio rhwng yr amgylchedd dynol, gan gynnwys (1) canfyddiad risg amgylcheddol, (2) ymddygiadau a ffyrdd o fyw cynaliadwy, a (3) tai, cymdogaethau ac iechyd.

Dr Heidi Seage, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae Dr Seage yn uwch ddarlithydd, ac mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â seicoleg gorfwyta. Prif ffocws ei hymchwil fu deall mecanweithiau gwybyddol sy'n cyfrannu at ddatblygiad gordewdra.

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Prifysgol Caerdydd

Prof Wahl-Jorgensen’s research focuses on the relationship between citizenship, media and emotion - and how it is affected by rapid technological change and innovation. She has also recently written on the role of fear in media coverage of the coronavirus.

Yr Athro Fiona Wood (cymdeithasegydd meddygol), Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Wood yn gymdeithasegydd meddygol sydd â diddordeb arbennig mewn credoau ac ymddygiadau mewn perthynas â heintiau cyffredin, gofal sy'n canolbwyntio ar y claf, a chyfathrebu gofal iechyd. Mae ganddi bortffolio eang o arbenigedd mewn dulliau ymchwil ansoddol.

Ms Bethan Pell, Prifysgol Caerdydd

Mae Ms Pell yn aelod cyswllt ymchwil ar draws Canolfan Datblygu Treialon a Chanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyrraeth Gymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer). Mae Ms Pell yn rhan o’r tîm cyfweliadau ansoddol.

Dr Anna Torrens-Burton, Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Torrens-Burton yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan PRIME Cymru. Mae Dr Torrens-Burton yn rhan o’r tîm cyfweliadau ansoddol. Mae ganddi brofiad o recriwtio cyfranogwyr i astudiaethau, oedolion iau a hŷn.

Mr Paul Sellars, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae Mr Sellars yn Swyddog Ymchwil y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles mewn gwahanol amgylcheddau. Mae Mr Sellars yn rhan o’r tîm cyfweliadau ansoddol.


© Copyright COPE Study